Skip to content

Gweithdai Ysgolion

Mathau o Weithdai

Mae gweithdai celf Orielodl yn boblogaidd tu hwnt, boed hynny yn waith dwdlo llythrennau gyda dosbarthiadau cyfan (ymweliadau ysgol neu’n rhithiol), yn sesiynau cwestiwn ac ateb (rhithiol fel arfer) neu’n brosiectau creu murluniau lliwgar ar baneli plywood. Mae’n aml angen archebu dyddiadau fisoedd o flaen llaw er mwyn sicrhau lle, ond mae croeso i chi gysylltu unrhyw bryd i wirio argaeledd. Gall gweithdy amrywio o sesiwn rhithiol o awr i brosiect peintio wythnos ney fwy o hyd. Mae popeth fel arfer yn dibynnu ar ofynion a chyllid yr ysgol.

Adnoddau

O ran adnoddau, mae’r offer fydd ei angen ar gyfer gweithdai dwdlo fel arfer mewn ysgolion yn barod (e.e. penisliau, papur, rwbweri, pensiliau lliw, peniau du ayb.). Ar gyfer gweithdai peintio murluniau, paneli plywood a phaent acrylig fyddwn yn defnyddio. Mi fydd y defnydd o baent, pren a brwshys i gyd yn pris. Mi fydd angen i’r ysgolion ddarparu byrddau a digon o le i beintio, sinc cyfagos i olchi brwshys/dwylo a sicrhau fod gan y rheini fydd yn cymryd rhan ffedogau neu hen ddillad addas. Gan ein bod yn defnyddio paent acrylig, nid yw’n dod i ffwrdd o ddillad. Am y rheswm yma, yn ddelfrydol, dylid osgoi peintio mewn ystafelloedd sydd a charped. Unwaith i’r paneli plywood sychu, yr ysgol fydd yn gyfrifol am osod y cyfanwaith i fyny ar y wal. Noder, mai murluniau ar gyfer arddangos y tu fewn yw’r rhain. Gall ysgolion ddewis eu gosod y tu allan, ond bydd angen eu selio’n dda iawn o flaenllaw. Ni allaf gymryd unrhyw gyfrifoldeb o unrhyw ddifrod achosir gan y tywydd dros amser – dyna pam yr argymhellir i bob murlun gael lle priodol y tu fewn i adeilad.

Trefn Gweithdai

O ran trefn gweithdai peintio murluniau, dwi fel arfer yn cael y disgyblion i helpu gyda’r gwaith peintio lliw yn y bore ac yna dwi’n amlinellu’r cyfan a thacluso popeth heb blant o amser cinio ymlaen. Yn ystod y bore, byddai grwp bach o ddisgyblion yn dod ataf i beintio ar y tro (nifer yn ddibynnol ar oedran fel arfer) ac yna’n cyfnewid i roi cyfle i’r grwp nesaf. Mewn gweithdy un diwrnod, dwi’n anelu i roi cyfle i rhyw ddosbarth o ddisgyblion i beintio yn ystod y bore. Gall mwy na hyn fod ychydig yn anodd. Mae rhai ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, yn dueddol o ddewis cynrychiolwyr neu grwp penodol o rhyw 8-12 disgybl i aros gydol y bore i beintio’r holl liw (heb gyfnewid). O wneud hyn, mae mwy o berchnogaeth a chyfrifoldeb gan y grwp dros y murlun a gwell rheolaeth dros safon gorffenedig yr holl beth.

O ran sesiynau dwdlo rhithiol, gellir archebu sesiwn o awr dros Microsoft Teams i greu dwdl ar thema o’ch dewis chi. Mi fydd y disgyblion yn dilyn fy nghyfarwyddiadau cam-wrth-gam, yn debyg iawn i steil fy fideos Youtube. Gall yr ysgol gynnwys nifer o ddosbarthiadau yn y sesiwn byw. Am resymau diogelwch, yr ysgol fydd yn gyfrifol am drefnu’r cyfarfod ar Teams ac yna danfon gwahoddiad i mi ymuno gyda nhw. Mae sesiynau rhithiol yn ffordd rhatach o roi’r cyfle i nifer o ddisgyblion brofi ychydig o gelf ar yr un pryd.

Mae’r ymweliadau ysgol i gynnal sesiynau dwdlo yn debyg iawn i’r uchod. Mae rhyw awr neu fore/prynhawn yn ddigon o amser gydag un dosbarth. Gellir treulio awr arall neu gweddill y diwrnod yn symud i ddosbarth gwahanol. Mantais ymweliad yw bo mwy o gyfle gan y disgyblion a minnau i ryngweithio a chymdeithasu a gallaf addasu sesiynau yn haws ar fyr-rybudd. Yr anfantais amlwg o gymharu a sesiynau rhithiol yw mai dim ond un dosbarth ar y tro gallaf dreulio amser gyda nhw. Mae cost ymweliad yn amlwg yn uwch hefyd.

Dalgylch y Gweithdai

Dwi wedi bod yn ffodus i allu teithio ledled Cymru yn creu pob math o furluniau a gwaith celf mewn ysgolion, sefydliadau a chlybiau. Tra fy mod yn lleol i ardal Abertawe, dwi’n teithio’n rheolaidd i’r gorllewin (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro) a’r dwyrain (Caerdydd/y Cymoedd). Dwi yn ceisio clustnodi ambell weithdy i Ogledd Cymru bob blwyddyn hefyd (unrhyw le uwch nag Aberystwyth ar y map), ond dwi’n gorfod cyfyngu’r ymweliadau yma i ryw un y tymor gan nad yw’n ymarferol aros i ffwrdd o adref am gyfnodau hirach. O ganlyniad, mae argaeledd ymweliadau’r gogledd yn aml wedi diflannu yn syth ar ddechrau’r flwyddyn academaidd os nad yghynt.

Archebu Gweithdy

Os hoffech archebu dyddiad(au) ar gyfer gweithdy, mae’n bwysig gwneud hynny mewn da bryd. Fel arfer, y mwyaf o amser cynllunio sydd gen i, y gorau fyddaf yn gallaf ateb eich gofynion fel ysgol. Gallwch archebu gweithdy fisoedd o flaen llaw, hyd yn oed os nad ydych yn hollol siwr o fanylion penodol eich murlun neu sesiwn dwdlo ar y pryd. Yn wir, mae’r galw wedi bod mor uchel am weithdai yn ddiweddar, mae’n bosib na fydd argaeledd mor fuan a’r hyn hoffech fel ysgol. Er mwyn sichau y gallaf archebu adnoddau/offer a chreu cynllun ar gyfer murluniau, hoffwn dderbyn briff neu restr o’r hyn hoffech i mi gynnwys yn y murlun o leiaf mis cyn dyddiad yr ymweliad. Os yw’r rhestr ddymuniadau yma’n barod ynghynt, gorau oll. Dwi fel arfer yn gofyn am y pethau pwysicaf i fod ar dop y rhestr a’r pethau llai pwysig tua’r gwaelod. Cofiwch gynnwys unrhyw eiriau hoffech weld yn y murlun hefyd. O ran gweithdai dwdlo, dim ond nodi’r thema hoffech i mi ganolbwyntio arno sydd ei angen fel arfer a galla i drefnu’r gweddill. Yn y ddau achos, dwi fel arfer yn ceisio dylunio cynllun bras ar bapur i’r ysgol allu rhoi adborth arno cyn parhau i ddylunio ar y paneli pren neu gyflwyno’r sesiwn dwdlo.

Costau

Mae prisiau pob gweithdy yn dibynnu ar ofynion penodol yr ysgol. Mae maint a manylder murluniau, costau teithio, hyd gweithdai i gyd yn ffactorau sy’n gallu amrywio prisiau. Mae prisiau ar gyfer Gogledd Cymru (pan fo argaeledd) yn amlwg yn mynd i orfod cynnwys costau lletya hefyd. Os oes diddordeb mewn gweithdy, y ffordd orau i gael pris i’ch hysgol chi yw i chi gysylltu trwy neges breifat ar dudalen Facebook, Instagram neu Twitter Orielodl.