Skip to content

Wcrain – ‘Mewn Undod Mae Nerth’ – Deunydd Digidol

£2.50

  • 2 ffeil PDF digidol i’w lawrlwytho yn seiliedig ar yr un darn o waith celf ‘Mewn Undod Mae Nerth’ gan Rhys Padarn
  • Mae un ffeil yn fersiwn lliw o’r gwaith i chi allu ei argraffu fel y mae a’i arddangos yn y ffenest/ystafell ddosbarth/swyddfa
  • Mae’r ffeil arall yn fersiwn du a gwyn sy’n berffaith ar gyfer gweithgaredd lliwio.
  • Bydd elw gwerthiant y ffeiliau digidol yn cael ei drosglwyddo i gronfa DEC ar gyfer helpu y sefyllfa argyfyngus yn Wcrain (noder – mi fydd Paypal yn codi ffi i mi am bob taliad, felly’r elw fydd cyfran yr arian fydd ar ol wedi’r ffi hwnnw).

Bydd y 2 ffeil ar gael i chi eu lawrlwytho yn dilyn y taliad. Caiff linc ei ddanfon i’ch cyfeiriad ebost (PWYSIG: Cofiwch edrych yn eich ffolder ‘Junk). Bydd y linc i lawrlwytho yn para am 7 diwrnod wedi’r taliad. Os ydych yn athro/athrawes mewn ysgol, dwi’n rhoi’r hawl i chi lungopio’r cynnwys gymaint yr hoffech i ddosbarthiadau eich hysgol chi yn unig. Mi fydd hi’n anghyfreithlon i chi rannu’r cynnwys digidol neu wneud copiau ar gyfer ysgolion/sefydliadau eraill. Unrhyw broblem lawrlwytho’r ffeiliau, plis cysylltwch gyda Orielodl trwy ddanfon neges breifat ar y cyfryngau cymdeithasol. Diolch yn fawr.